Teimlo’n well. Arbed arian. Gwneud gwahaniaeth. Dyma dy gyfle di i golli’r penmaenmawr, siapio dy gorff, a chynilo dy geiniogau.
Yr her i ti: hepgor y peint ar y ffordd adref o’r gwaith, y gwydraid o win ar y soffa, neu’r sesiwn fawr yn y dref, am fis crwn cyfan.
Gelli di wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n dioddef oherwydd camddefnyddio alcohol trwy gael dy noddi gan dy deulu a dy ffrindiau er mwyn codi arian i Alcohol Concern.




















